Event Info
Canllaw Oedran: Addas i bawb
Rhediad: 60 munud dim toriad
Drama am Waldo Williams (1904-1971) - bardd dewrder, bardd tynerwch.
‘Gobaith fo’n Meistr, rhoed Amser inni’n was.’
Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i fro’r Garreg Las yn 2026, mae’n addas bod cwmni Mewn Cymeriad yn talu teyrnged i waith a bywyd un o blant amlycaf yr ardal honno, sef y bardd a’r ymgyrchydd heddwch Waldo Williams. Yn y cyflwyniad hwn, cawn gip ar y cwlwm tynn rhwng profiadau ei fywyd, delfrydau ei athroniaeth a’i gerddi ac ystyried mor berthnasol yw ei eiriau i’n dyddiau ni.
Iaith y perfformiad: Cymraeg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.