Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 12 Chw
·
Storytelling

Event Info

Canllaw Oedran: 14+ oed

Rhediad: 75 munud dim toriad

We're Not Getting A Dog*  

*Sioe nad yw ar y cyfan yn sôn am Gŵn 

gan Sam Freeman 

Stori yw hon am ysgrifennu llythyrau goddefol-ymosodol, golchi pwysedd yn gynnar yn y bore a gwneud tŷ yn gartref. Mae'n ymwneud â'r rhai sy'n byw, yn chwerthin ac yn caru llathenni oddi wrthym, ond nad ydym yn eu hadnabod o gwbl mewn gwirionedd.

Mae cwpl yn rhedeg trwy'r glaw i ddal bws.

Mae dyn yn syllu ar sgrîn gliniadur wag mewn anobaith.

Mae dynes yn agor amlen i ddod o hyd i ffoto y tu mewn.

Tŷ newydd ar stryd newydd gyda chymdogion newydd.

Sioe tua saith deg dau funud, a ddarllenir o lyfr bach du gan ddyn blêr, barfog, sy'n gwisgo sbectol, mewn crys siec coch a jîns du, nad yw'n berchen ar olchydd pwysedd. Sioe adrodd straeon newydd** gan Sam Freeman (Every Little Hope You Ever Dreamed, Every Time I Close My Eyes).

**Ychydig iawn o gyfeiriadau at gŵn sydd yn y sioe hon.

Iaith y perfformiad: Saesneg

Canllawiau Cynnwys: Yn cynnwys iaith gref achlysurol a syndod - ychydig o gyfeiriadau at gŵn!

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Iau 12 Chwefror, 2026
00:00
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.