Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 27 Maw
·
Sinema

Event Info

Cyfarwyddwr: Ratchapoom Boonbunchachoke

Gwlad Thai/Ffrainc/Sinapôr, 2025, 130', Thai gyda is-deitlau Saesneg

Mae March yn galaru am ei wraig Nat sydd wedi marw’n ddiweddar oherwydd llygredd llwch. Mae’n darganfod bod ei hysbryd wedi dychwelyd drwy feddiannu hwfer. Wedi’i aflonyddu gan ysbryd a ymddangosodd ar ôl marwolaeth gweithiwr a arweiniodd at gau eu ffatri, mae ei deulu’n gwrthod eu perthynas anghonfensiynol dyn–ysbryd. Wrth geisio eu hargyhoeddi o’u cariad, mae Nat yn cynnig glanhau’r ffatri. I ddod yn ysbryd defnyddiol, rhaid iddi gael gwared ar y rhai diwerth yn gyntaf.

'a delirious vision, a hilarious and thought-provoking comedy that demands to be seen and adored. It's just phenomenal.' - Mashable

'A strange, tranquil, humorous exploration of the conundrums that would emerge were ghosts an accepted occurrence in everyday life.' -The Film Stage

🏆 Enillydd Prif Wobr Wythnos y Beirniaid yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2025

Eleni mae Gŵyl Ffilm WOW yn 25 oed, yn dathlu’r gorau oll o sinema Cymru a’r byd. Rhwng 20-28 Mawrth 2026, byddwn yn dod â hudoliaeth ffilm i ‘gartref’ ein gŵyl, Aberystwyth. Byddwn yn dangos amrywiaeth gyfoethog o ffilmiau sy’n amlygu talent leol a straeon byd-eang. Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 25 mlynedd anhygoel o WOW – a grym sinema i gysylltu ac ysbrydoli.

** Prynwch eich Pas  YMA ‘nawr: Am £80 cewch fynediad i bob ffilm WOW a ddangosir yng Nghanolfan y Celfyddydau **

Mae’r Pas yn cynnwys yr holl ffilmiau a digwyddiadau sy'n digwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac eithrio dangosiad 'Little Amelie' - fel rhan o Abercon - ar Fawrth 14. Rhaid archebu'r digwyddiadau sy'n digwydd yn Arad Goch ar wahân hefyd.  Wrth archebu, rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau pa sedd sydd orau gennych ac os oes gennych unrhyw anghenion mynediad.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 27 Mawrth, 2026
19:45
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.