Event Info
Cyfarwyddwr: György Pálfi
Gwlad Groeg, 2025, 90', Groeg, Cackling gyda is-deitlau Saesneg
Wedi’i hadrodd yn gyfan gwbl o safbwynt ei phrif gymeriad adarol, mae Hen yn dilyn iâr sy’n dianc o fferm ddiwydiannol ac yna’n gorfod llywio trefn bigo bwyty arfordirol sy’n dirywio yng Ngwlad Groeg. Wrth iddi frwydro i ddiogelu ei hwyau, mae’n dod yn dyst anfwriadol i fywydau cymhleth y bobl o’i chwmpas, wrth i’r bwyty gael ei ddal ym mhlyg trachwant, smyglo, a'r argyfwng mudwyr.
'Compelling… certainly a sight most cinephiles won’t have seen before' - Little White Lies
🏆Crybwyll Anrhydeddig (Platform Award) yng Ngŵyl Ffilm Rhyngwladol Toronto 2025
⭐ Enwebiad Gwobr Dragon yng Ngŵyl Ffilm Göteborg 2026
Eleni mae Gŵyl Ffilm WOW yn 25 oed, yn dathlu’r gorau oll o sinema Cymru a’r byd. Rhwng 20-28 Mawrth 2026, byddwn yn dod â hudoliaeth ffilm i ‘gartref’ ein gŵyl, Aberystwyth. Byddwn yn dangos amrywiaeth gyfoethog o ffilmiau sy’n amlygu talent leol a straeon byd-eang. Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 25 mlynedd anhygoel o WOW – a grym sinema i gysylltu ac ysbrydoli.
** Prynwch eich Pas YMA ‘nawr: Am £80 cewch fynediad i bob ffilm WOW a ddangosir yng Nghanolfan y Celfyddydau **
Mae’r Pas yn cynnwys yr holl ffilmiau a digwyddiadau sy'n digwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac eithrio dangosiad 'Little Amelie' - fel rhan o Abercon - ar Fawrth 14. Rhaid archebu'r digwyddiadau sy'n digwydd yn Arad Goch ar wahân hefyd. Wrth archebu, rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau pa sedd sydd orau gennych ac os oes gennych unrhyw anghenion mynediad.